Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 2 Chwefror 2016
Amser: 09.04 -
11.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3344
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Jocelyn Davies AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC |
Tystion: |
Debra Barber, Maes Awyr Caerdydd Roger Lewis, Maes Awyr Caerdydd |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Matthew Mortlock (Swyddfa Archwilio Cymru) Ben Robertson (Swyddfa Archwilio Cymru) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.3 Datganodd Jocelyn Davies fuddiant gan fod aelod o’i theulu yn cael ei gyflogi gan Thomson Airways ym Maes Awyr Caerdydd, ond nid oedd yn gweithio yn y lleoliad hwnnw yn ystod y cyfnod caffael.
2.1 Nodwyd y papur.
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Roger Lewis, Cadeirydd, a Debra Barber, Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gweithredu, Maes Awyr Caerdydd fel rhan o’r ymchwiliad i gaffael a pherchnogaeth Llywodraeth Cymru o Faes Awyr Caerdydd
3.2 Cytunodd Debra Barber i ddarparu ffigurau ar drwybwn teithwyr o’r tu allan a gallu’r maes awyr yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd ac Uwchgynhadledd NATO.
3.3 Estynnodd Roger Lewis wahoddiad i’r Pwyllgor i ddod ar ymweliad i weld y gwelliannau a wnaed i’r seilwaith yn y maes awyr.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, gan gytuno arno yn amodol ar rai mân newidiadau.